AC(4)2012(1) Papur 2 rhan 1

Dyddiad: Dydd Iau 2 Chwefror
Amser:
    10.30-12.30
Lleoliad:
  Swyddfa’r Llywydd
Enw’r awdur a rhif cyswllt:
    Ross Davies, est 8197

Cynllun Cydraddoldeb Comisiwn y Cynulliad 2012-16

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n rhaid i Gomisiwn y Cynulliad gyhoeddi amcanion cydraddoldeb erbyn Ebrill 2012.  Mae’r Tîm Cydraddoldeb wedi gweithio gyda chydweithwyr drwy’r sefydliad i ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer 2012-16 sydd ynghlwm.

1.2     Mae’r Cynllun yn ymdrin â’n dyletswyddau cyfreithiol o ran cydraddoldeb, ein hethos corfforaethol, ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau, ein hamcanion sy’n cael blaenoriaeth, ein dull ymgynghori ynghyd â chynllun gweithredu.  Mae’r Cynulliad wedi gweithio’n galed i gynnwys cydraddoldeb yn ein gwaith.  Er bod nifer o’r camau yn y cynllun yn rhai newydd, mae eraill yn adeiladu ar arferion da cyfredol.  Mae’r cynllun ynghlwm fel Atodiad A.

1.3     Bydd y Tîm Cydraddoldeb yn gyfrifol am gefnogi a monitro cynnydd y camau a amlinellir yn y Cynllun.  Gofynnir i wasanaethau drwy’r sefydliad ddarparu tystiolaeth ynghylch sut maent yn gweithredu ar gamau.  Bydd hyn yn cyfrannu at yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb a fydd yn cael ei gyflwyno bob mis Ebrill i Gomisiwn y Cynulliad graffu ar ei gynnwys.

2.0    Argymhellion

2.1     Gofynnir i Gomisiwn y Cynulliad gynnig sylwadau ar Gynllun Cydraddoldeb 2012-16 a chytuno ar ei gynnwys.

3.0    Ymgynghori

3.1     Drwy gydol misoedd Hydref a Thachwedd 2011, cyflwynodd y Tîm Cydraddoldeb arolygon a chynhaliodd grwpiau ffocws er mwyn casglu adborth gan Aelodau’r Cynulliad, Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad, staff Comisiwn y Cynulliad, staff ar gontract a’r cyhoedd.  Cynhaliwyd nifer o grwpiau ffocws ledled Cymru gyda grwpiau amrywiol.  Mae rhagor o fanylion am y gwaith ymgynghori a wnaed ar gael yn y Cynllun.

4.0    Trafodaeth

4.1     O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae Comisiwn y Cynulliad yn gorff cyhoeddus heb ei ddatganoli.  Mae hyn yn golygu bod gennym gyfrifoldebau fel sefydliad o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy’n cael eu pennu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn hytrach na’r rhai sy’n cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru.  Er hynny, lle teimlwn fod hynny’n briodol, fel yn achos y ddyletswydd i gyflwyno Cynllun Cydraddoldeb, byddwn yn gweithredu yn unol â Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy’n cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru, sy’n fwy rhagnodol.

4.2     Mae’n werth nodi fod materion ynghylch cydraddoldeb hefyd yn cael eu trin ym Mhennod 9 y Penderfyniad ar Gyflog a Lwfansau Aelodau.  Comisiynwyd Tîm Cydraddoldeb y Cynulliad gan y Bwrdd Taliadau i wneud gwaith sgrinio ar effaith cydraddoldeb pan ddatblygwyd y Penderfyniad, a byddem yn rhagweld y byddwn yn parhau i gefnogi’r Bwrdd gyda hynny.

5.0    Asesu risg

5.1     Pe na bai Comisiwn y Cynulliad yn cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb gydag amcanion erbyn Ebrill 2012, byddem mewn perygl o beidio â chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

5.2     Byddai’r Cynulliad yn debyg o wynebu perygl i’w enw da pe na bai cynllun yn cael ei gyhoeddi erbyn y dyddiad a bennwyd ym mis Ebrill.